Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15
Tachwedd 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru
(30 munud)
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnig Gofal Plant Cymru
(30 munud)
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr
(30 munud)
7 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cenedl o Ail Gyfle
(30 munud)
8 Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2021-22
(60 munud)
NDM8109 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2021-22
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 16 Tachwedd 2022